Mae atgofion hunllefus hen achosion wedi gorfodi Taliesin MacLeavy i ymddeol fel ditectif. Ond pan mae e'n dechrau cyfrannu i bodlediad am droseddau gwir mae linc yn cyrraedd am lofruddiaeth go iawn. Ond pwy yw'r llofrudd a pham mae e'n edrych i'r gorffennol?
Rhaid i mi ddweud - dwi 'di bod yn aros yn eiddgar am y nofel hon yn fwy nag unrhyw lyfr erioed o'r blaen. Mi ges i 'ngafael gymaint gan y ddwy gyntaf, ac wedi bod ar bigau'r drain fwy na heb yn aros am daith olaf Taliesin. Hir yw pob ymaros; good things come to those who wait. Ac mi'r oedd hi'n werth yr aros.
Mae'n nofel, fel y ddwy flaenorol, sy'n dal o'r cychwyn cyntaf ac mae'r tudalennau'n gwibio heibio. Does wybod beth sy'n llechu rownd pob cornel, wrth i'r awdur feistroli'r datgelu graddol. Mae'r dirgelwch yn un gafaelgar, ond mae'r elfen seicolegol anferth sy'n rhan annatod o'r stori - o'r safbwyntiau gwahanol - yn ychwanegu lefel arall i'r difyrrwch. Dros y dair nofel a thrwy'r nofel hon ei hun cawn brofi datblygiad yng nghymeriad Taliesin, ac erbyn darllen y drioleg yn ei chyfanrwydd mae rhywun yn teimlo ryw 'agosatrwydd' ato. Bydd 'na chwith ar ôl ei gymeriad!
Diweddglo teilwng iawn i'r drioleg - sy'n codi curiad y galon gymaint ag y gwnaeth y ddwy flaenorol. Athrylith.