Nofel ysgafn, obeithiol a chynnes am gariad, ffyddlondeb a heneiddio - drwy lygaid ci. Welsh language novel for adults. A light, hopeful and warm novel about love, fidelity and ageing - through the eyes of a dog.
"Cylch ydi bywyd - un dieflig i rai, mae'n siwr, ond dwin ei weld on gylch reit daclusfy hun. Dan ni'n dechrau'n araf a thrwsgl, yn dysgu fesul tipyn sut i gerdded, yna rhedeg; wedyn, ar ôl blynyddoedd o redeg i fyny ac i lawr y bryniau, dan ni'n arafu eto, nes byddwn ni'n berffaith lonydd. Fel'na fu hi rioed, i bawb, waeth faint o goesau sydd gynnon ni."
Wnes i chwerthin a chrïo wrth ddarllen hwn. Dwi’n fwy o ddynes cath na chi, ond yn gallu uniethu’n iawn gyda’r berthynas rhwng anifail anwes a’i “ddwygoesyn”. Fel arfer, mae Bethan Gwanas yn sgwennu’n naturiol, yn ddoniol, yn sensitif. Stori hyfryd a gwreiddiol sy’n gafael ymoch chi! Un da ‘di Mot! A bril Bethan!
Mae'r stori hon yn eiledu, pennod wrth bennod, rhwng y safbwyntiau o gi a'i pherchennog. Mae'r ddau ochr y stori wedi'i hysgrifennu'n dda - wastad yn gredadwy (Mae'r awdures yn nabod cŵn a phobl) ac yn aml digri iawn. Mae'n sicr yn werth ei ddarllen.