Dewi Prysor Williams, or Dewi Prysor as he is more commonly known, is a Welsh author and musician. He was born in Dolgellau in 1967 and raised in Cwm Prysor, near Trawsfynydd. He lives in Llan Ffestiniog with his wife and three sons.
In 1992, Prysor was accused of 'conspiring to cause explosions' as part of the Meibion Glyndŵr arson campaign. He spent 14 months in Walton Prispon, Liverpool, while awaiting a trial. He was found not guilty. He subsequently wrote a drama based on this experience called DW2416, which was performed 25 times on tour by Llwyfan Gogledd Cymru/North Wales Stage.
Chaotic, erchyll o ddoniol a llawn cymeriadiau unigryw da chi'n gwbod fod yr awdur wedi eu tynnu yn syth o strydoedd a phentrefi ei brofiad o fyw ym Meirionydd. Anodd cael gafael ar yr arddull i ddechrau, gan mai dyma fi'n ceisio camu'n ôl i mewn i lenyddiaeth Gymraeg am y tro cynta mewn degawd neu fwy (a dechrau efo hwn, nefi blw!) ond ges i ail wynt ac yna darllen hwn dros ddydd Sul a Llun penwythnos gwyliau banc mis Mai, a'i fwynhau go iawn.
Ma'r stori ei hun yn comedi of errors go iawn: potsiars yn dwyn cannoedd o frithyll o ryw safle carafans twristiaidd yw prif sbardun gwrthdaro'r darn, gyda chast o gymeriadau unigryw, doniol ac yn aml cweit ffiaidd i gyd yn delio efo'u problemau a'u chwantau eu hunain wrth i'r plismyn a'r lladron chwarae cath a llygod drwy dre fach mynyddog o'r enw Graig. Mae'r stori'n cymryd ei amser bob hyn ac yn man i sbio a sylwi ar fywydau'r bobl yn y gymdeithas glos a thorcyfreithiol yma, ac mae'n ganmoliaeth i'w awdur bod y tangents yma yn parhau i ddifyru gymaint a'r "prif" stori, ac eu bod hefyd yn aml yn plethu'n ôl i fod yn berthnasol neu'n bwysig yn nes ymlaen.
Mi odd gan y llyfrgell fwy o lyfra gan y boi hwn, felly dwi'n meddwl na'i bigo un arall cyn bo hir.
Cymeriadau hynod a dweud y lleiaf yn britho’r nofel gydag enwau unigryw, mewn sefyllfaoedd hyd yn oed yn fwy unigryw! Cwrw, cyffuriau…… lot o gwrw a lot o gyffuriau. Iaith gref drwyddi draw, ond hynod ddisgrifiadol a doniol dros ben.
Peidiwch a’i roi i nain/taid i’w ddarllen, na’ch mam/tad o ran hynny! Ond joiwch…. A mae yna fwy. Madarch ydi’r nesaf.