Cyfrol arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen 2022. Yng ngwanwyn 1893 mae Elin Jones yn Llŷn yn hiraethu am ei gŵr John sydd i ffwrdd ar y môr ers dros flwyddyn. Er iddi gychwyn busnes a bod ganddi ei theulu o'i chwmpas, mae'r aros yn hir ac yn anodd. Ond yna daw newydd annisgwyl am yr hyn a ddigwyddodd iddo. A hynny'n codi hen ofnau a heriau newydd... The prizewinnning volume of the 2022 Daniel Owen Memorial Prize.
Llyfr arbennig o ddiddorol, efo llawer i’w ddysgu ynddi o’r hanes Cymru a Llŷn ddiwedd y 19fed ganrif mae hon. Rhaid i’r awdures wedi gwneud lot o ymchwil i’r byd morwyr a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r iaith, yn enwedig y dialog, yn fywiog ac hyfryd: roeddwn i wrth fy modd efo rhai fenthyciadau o’r Saesneg, fel ‘ffwtwocio’ (to go by foot), ‘mistimaners’ (misdemeanors) and ‘Dim yntôl!’ (Not at all!)
Roedd yn syndod imi na chaeth y llfyr ei chonsidro i Lyfr y Flwyddyn!
Diddorol iawn, dw'i dim ond wedi dechrau darllen llyfrau Cymreig yn gymharol diweddar, a ni glywaf llawer o Gymraeg ar ôl symud i Loegr. Mae darllen Cymraeg yn codi hiraeth, ond hefyd yn gymorth. Roe'n i'n falch yn y diwedd bod John wedi gwella digon i fynd yn ôl i'r môr a chael gyrfa fel mêt yn lle cymrud y pwysa o fod yn Gapten.
Wedi mwynhau'n arw. Gymaint o ôl ymchwil ar y sgwennu - lot fawr o waith cefndirol wedi mynd i mewn i'r gampwaith yma. Mor ddiddorol darllen am fywyd morwyr y cyfnod (a'r rhai oedd ar ôl pan oedd pobl yn mynd i'r môr).