Jump to ratings and reviews
Rate this book

Sgen I'm Syniad: Snogs, Secs, Sens

Rate this book
Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.

270 pages, Paperback

Published September 1, 2022

10 people are currently reading
69 people want to read

About the author

Gwenllian Ellis

3 books3 followers

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
58 (42%)
4 stars
49 (35%)
3 stars
22 (16%)
2 stars
7 (5%)
1 star
1 (<1%)
Displaying 1 - 10 of 10 reviews
Profile Image for Lois Hughes.
68 reviews8 followers
October 16, 2022
“Ti’n bwysig. Ti’n rili, rili pwysig i lot o bobl. Paid â gadael i neb wneud i chdi deimlo’n wahanol.”

Y llyfr yma, a’r geiriau ar y tudalenau ydi’r chwaer fawr oni wasdad isho.
Dwi di chwerthin, crio, cytuno & meddwl lot wrth ddarllen hwn. Ma’n agoriad llygaid, ac y ffrind gora’ sy’n gneud i chdi deimlo na dim chdi di’r unig un sy’n teimlo fel ti’n teimlo - a bod dim angen i r’un ohona ni ffitio fewn i ‘stereotype’ o beth ydi bod yn ferch - a hynny i gyd wrth ddarllen straeon Gwenllian ar wahanol adegau o’i bywyd.

Prowd iawn o Gwens am sgwennu llyfr mor blydi briliant💖
Profile Image for Cari.
1 review1 follower
October 20, 2022
Llyfr y flwyddyn. Dwi wedi bod trwy bob emosiwn yn darllen y llyfr ma! Mae darllen llyfr cymraeg sydd wedi anelu at genod ifanc Cymru or diwedd mor braf. I rwyn a oedd gorfod darllen pethe dark Bethan Gwanas o ysgol uwchradd ymlaen i ddal ymlaen darllen cymraeg (gan fod ne ddim byd wedi anelu at merched ifanc),dwin diolch am lyfr ysgafn syn dangos be mae'n feddwl i fod yn hogan ifanc o fewn y Cymdeithas Cymraeg heddiw, y da ar drwg! Dir llyfr yma ddim yn "ormod" nac yn "or-rhywiol" mae on potreadu bob dim am fywyd o ran ffrindiau, pwysigrwydd teulu, colled, darganfod dy hun a y pwysau cymdeithasol sydd yno ar merched ifanc o fewn ein diwylliant. Maen andros o bwysig bod y llyfr yma wedi cael ei ysgrifennu i ddangos i ferched ifanc Cymraeg i ddathlu diwylliant Cymraeg ond hefyd fod en iawn i fod yn rhwystredig tuag ato.
Profile Image for meg grace nobile.
2 reviews3 followers
December 8, 2022
fi newydd benu’r llyfr ma, ac yn barod, fi moyn pigo fe lan ‘to.

yn gynta, diolch i @gwenllianellis am sgwennu’r llyfr yma yn mor onest a crai, mi oedd o’n bleser i ddarllen cofiant mor bersonol. Fel merch o orllewin Cymru, ma’r stori yma yn atseinio efo mi, ac yn teimlo’n gyffredin o’r ddechre. Wnaeth hyn atgoffa fi o dyfu lan yng nghaerfyrddin yn ysgol gymraeg, yn mynd i barn dances, a delio gyda pethe tebyg.

ma hon yn teimlo fel ‘handbook’ i ferched cymraeg, a’n darllen fel bo ti’n gal cymorth dy chwaer sy’n edrych mas iddo ti, yn dilyn ti trwy gamgymeriadau nhw a stories hilarious.

mae’n hanfodol bod pob merch yn darllen y llyfr yma mor gynted â phosib os wyt ti moyn chwerthin, crio a cringo. 100% werth ddarllen, a dwi’n edrych mlan i weld beth arall sy’n dod mas o’r awdur talentog yma!
61 reviews1 follower
April 4, 2023
Dim sylwedd, dim dyfnder. Ond dewr iawn ohoni i’w ysgrifennu a bod mor onest - ond dim ond pan mae hi eisiau bod. Bydden i wedi hoffi gwybod pam iddi symud ysgol a mwy amdani hi tu hwnt i’r holl ryw gwael.
This entire review has been hidden because of spoilers.
Profile Image for Megan Owen.
25 reviews4 followers
December 22, 2025
Wnes i fwynhau rhannau’r o’r llyfr yma, jyst bach yn repetitive ar ôl hanner ffordd. Roedd hi’n glir i mi fod “Everything I Know About Love” gan Dolly Alderton yn ysbrydoli mawr am y llyfr - roedd gormod o debygrwydd!

Hollol lysh i ddechrau sgwrs am fywydau menywod ifanc yng Nghymru, mae’r llyfr hefyd wedi codi atgofion o blentyndod fy hun. Jyst ddim yn credu fy mod i’n mynd i ddarllen eto a mor ailadroddol erbyn hanner olaf y llyfr.

Hefyd.. wrth gwrs dydy hi ddim yn gystadleuaeth am bwy sydd wedi cael y profiadau gwaethaf… ond bach yn insensitif i ysgrifennu am brofiad dy ffrind yn colli ei fam ar un dudalen, a’r literal tudalen nesaf yn dweud bod “y peth gwaethaf yn y byd wedi digwydd” i ti… a bod ti di cael 2:2 yn y brifysgol 😅 Jyst fi?
Profile Image for jmp&#x1f319;✨.
4 reviews
April 2, 2023
“Sgen i'm syniad sut mae'n teimlo i gael colled sy'n troi dy fyd â'i ben i lawr. Sgen i'm syniad os mai dyma'r ffordd ddylwn i fod yn byw bywyd. Sgen i'm syniad os dwi wedi gwneud y penderfyniadau cywir. Weithiau sgen i'm syniad pam dwi’n gwneud y pethau dwi’n eu gwneud.”

“Ti’n bwysig. Ti’n rili, rili pwysig i lot o bobl. Paid â gadael i neb wneud i chi deimlo'n wahanol.”
This entire review has been hidden because of spoilers.
360 reviews1 follower
December 11, 2024
Doe'n ni ddim yn siwr be is ddisqwyl efo'r llyfr yma, ond yn ddiolchgar i Gwenllian am siaro'i profiadau wrth dyfu i fynny yng nghogledd Cymru ac wedyn bywyd mewn dinasoedd mawr. Profiadau mae'n anodd i mi ddychmygu fel hogyn.
Displaying 1 - 10 of 10 reviews

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.