Nofel fach hynod o amserol.
Mae bod yn Powell yn fraint yn Nhrefair, Ynys Môn, ar ôl i Gymro anfon pres yn ôl i’r pentref yn yr 1800au wedi gwneud ei filiynau yn yr UDA.
Bron i ddau gau ganrif yn ddiweddarach, mae Elis Powell a’i daid yn barod i deithio i Virginia i hel achau - ond ydy bod yn Powell yn beth da wedi’r cyfan?
Dyma lyfr gwych sydd ddim yn cuddio cysylltiad Cymru â chaethwasiaeth ac yn mynd yn erbyn y hen ddadl mai ‘dyna sut oedd pethau yn yr hen ddyddiau’.
Fy unig broblem oedd y ffaith bod neb o Drefair wedi gwneud y cysylltiad rhwng Cymro cyfoethog yn byw yn Virginia a chaethwasiaeth; digon teg i Elis efallai sy’n ifanc a ddim yn un i wrando llawer mewn gwersi Hanes, ond sut wnaeth ei daid ddim gwneud y cysylltiad wrth ymchwilio cyn y trip?
Fel arall, llyfr hynod o dda sydd angen cael ei ddarparu i bob dosbarth Cymraeg yn y wlad.