Nofel hanesyddol â charwriaeth rhwng Cymraes a Chroatiad yn ganolog iddi. Clymir a gwahanir bywydau Nia a Marko a gwelir goblygiadau hynny i'r dyfodol. Yn gefnlen i'r stori bersonol, mae hanes sut y gwaethygodd y berthynas rhwng y Serbiaid a'r Croatiaid yn ystod yr 1990au, gan ganolbwyntio ar feddiannaeth y JNA o dref fechan Cavtat a'r ymosodiad ar Dubrovnik. A historical novel with romance between Welsh girl Nia and Croatian boy Marko central to the story. Their lives are tied yet separated, and the implications have an effect on the future. The backdrop to the story is the history of how relationships between Serbs and Croats deteriorated during the 1990s, with the JNAs occupation of the small town of Cavtat and the attack on Dubrovnik.
Stori hanesyddol a rhamantus sy’n seiliedig ar ryfel Iwgoslafia yn y 90au cynnar. Roeddwn yn ymwybodol o hanes Croatia cyn darllen y llyfr a does gen i ddim cywilydd cyfaddef fy mod i wedi bod yn Dubrovnik yn 2017 oherwydd Game of Thrones.
Nes i fwynhau’r llyfr, roedd hi’n stori ysgafn gyda chymeriadau cyflawn sy’n cydio ynoch chi ond roedd y deialog weithiau yn rhy ffurfiol rhyngddynt. Roeddwn wastad yn meddwl “be os…” ond roeddwn eitha’ siomedig am hanes swta Nia yn y penodau diweddar.