Fast-paced mystery set in an industrial town in the second half of the 19th century. The main character, Sara, escapes from her fath er, an alcoholic minister and comes to the town having seen an adv ert for a job as a journalist in Henry Glass's press, a business m an and a editor of newspaper, Llais y Bobol.
Ifan Morgan Jones is lecturer in Journalism at Bangor University. He is the author of Babel - the first steampunk novel in Welsh, which won the 2020 Wales Book of the Year award (in the Welsh language), the Fiction category prize, and the Golwg360 Barn y Bobl (People's Choice award).
Llyfr da iawn sy'n adrodd stori afaelgar yn llawn cymeriadau byw a chofiadwy ac sy'n dangos dealltwriaeth gref iawn o ddiwylliant a chymdeithas Cymru yn y gorffennol agos a'r presennol. Mae'r darluniau "Agerstalwm" - cyfieithiad crefftus iawn ar gyfer "Steampunk" gyda llaw - o'r enwadau Cymreig traddodiadol yn enwedig o dda, yn ogystal a'r pwyslais ar drafod yr iaith (beth arall mewn llyfr o'r enw "Babel"?) a sut y mae'n plethu i mewn i hunaniaeth Gymreig, hunaniaeth a chredoau crefyddol, y gwrthdrawiad rhwng y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol a'r cyfalafwyr ac ati yn hynod o dda. Dyma awdur sy'n gwybod ei bwnc.
Dwi'n tynnu un seren ymaith oherwydd nad wyf yn hoffi beth sy'n digwydd yn y ddwy dudalen ola (lle mae'r ffont yn newid, mae'r rheiny sy'n gwbod yn gwbod am be dwi'n sôn) - ddim yn credu ei fod yn ychwanegu rhyw lawer ond blas drwg yn y ceg wrth roi'r llyfr i lawr. Ella na'i ailystyried wrth gnoi cil arno fymryn yn fwy, ond ddim yn ei hoffi. 5/5 hawdd fel arall.