Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.Living in London, Lydia is struggling through her twenties, regretting drunken nights, reflecting on texts and trying her best nor to be late for work. She has a complicated relationship with Wales. Far from home, she questions her identity and her vision of herself as a Welsh woman in the world.
Dwi yn hynod falch fod y nofel yma wedi cael ei sgwennu. Dwi’n siwr fod na gymaint o bobol sydd allan yna yn cwestiynnu’r hyn sydd yn cael ei godi yn y llyfr yma am hunaniaeth Cymry Cymraeg; dwi’n gwbod mod i sicr yn. Oedd darllen y llyfr yma just fel “yes, dyma dwi’n ei gwestiynnu am fod yn Gymraes hefyd!!”
1. Be mae o’n ei olygu i fod yn Gymraes yn y Cymru fodern 2. A yw’n bosibl perthyn yn llawn i Gymru tra’n teimlo’n amwys, yn ddatgysylltiedig, neu’n wrthdaro efo hi? 3. Pa bwysau emosiynol sydd gan yr iaith y tu hwnt i’w swyddogaeth gyfathrebol? 4. Beth sy’n digwydd pan fydd cenedlaethau iau’n teimlo eu bod wedi methu â “chyflawni” neu fyw hyd at hunaniaethau etifeddol? 5. Sut mae symyd ymlaen mewn byd modern tra’n aros yn dryw i’r hanes sydd yn ein gwneud ni yn pwy ydan ni
Mae ‘na gwestiynnau eraill hefyd i’w ystyried, ond i fi, dyna oedd y brif rhai. Nofel o’n i’n medru uniaethu efo o ran be ydi bod yn Gymraes heddiw. Dydi’r awdur ddim yn cynnig atebion, ond mae hynny yn ok oherwydd dwi’m yn meddwl fod ‘na ateb, mae profiad pob unigolyn yn wahanol. Darllen y nofel hon yn brofiad arbennig
dwim yn siwr mod i’n dallt y diweddglo? ond odd cymeriad lydia rili’n adlewyrchu teimlada fi am bopeth yn y bôn lly odd darllen hwn bach fel darllen meddyliau’n hun (ond bysai byth yn symud i lundain sori lydia)