Jump to ratings and reviews
Rate this book

Llafnau

Rate this book
Mewn cyfarfod tanbaid ynglyn a datblygiad melinau gwynt yn neuadd bentre Esgair-goch, cafodd Martin Thomas, y Cnwc, newyddion da. Byddai Fferm Wynt Hyddgen yn cael ei hadeiladu ar dir mynyddig ei fferm. Ond ynghanol ffrae sy'n hollti cymuned mae buddugoliaeth Martin Thomas yn gyflym troi'n ddim, wrth iddo gael ei lofruddio ar ei ffordd adref o'r cyfarfod.Gareth, Mel ac Akers, y tri ditectif o Heddlu Dyfed-Powys sy'n ymchwilio i'r drosedd ac wrth ddilyn sawl trywydd maen nhw'n darganfod bod gan y ffermwr nifer o elynion. Mae'r ymchwiliad yn arwain at sgandal wleidyddol a blacmelio cwmni rhyngwladol Caerwynt. Mae'r plot yn byrlymu gan ddigwyddiadau sy'n portreadu cymdeithas gyfoes cefn gwlad Ceredigion, gan gyrraedd uchafbwynt trist ac annisgwyl.

253 pages, Paperback

First published January 1, 2010

Loading...
Loading...

About the author

Geraint Evans

31 books1 follower

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
2 (10%)
4 stars
9 (47%)
3 stars
7 (36%)
2 stars
1 (5%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 2 of 2 reviews
Profile Image for Helen.
1,279 reviews25 followers
September 1, 2013
Wedi mwynhau'r stori - hoffi'r lleoliad (cyfarwydd) yn Aberystwyth a'r cyffiniau, ac mae'r pwnc melinau gwynt yn pwysig fan'na. Heb weithio maes yn union pwy a wnaeth a pham/sut tan y diwedd. Camgymeriad oedd darllen "Diawl y wasg" (sy'n dilyn) cyn yr un yma, gan fod yr olygfa dyngedfennol tua'r diwedd yn dibynnu am ei effaith ar beidio gwybod beth sydd ar fin digwydd. Yn hoffi hefyd manylion bach fel iaith Annabel Rhys (neidio o'r Gymraeg i'r Saesneg bob yn ail frawddeg, nodweddiadol o Aberystwyth). Dim yn argyhoeddedig gan y berthynas rhwng Gareth a Mel cymaint. =

Enjoyed the story, especially the familiar location (Aberystwyth and surrounding area). The wind farm theme is an important topic in the district. I didn't work out who the murderer was or why/how until the end. It was a mistake to read the sequel, "Diawl y wasg", first, as the scene in which everything becomes clear depends for its shock effect on not knowing what is about to happen. Also enjoyed little details like the language of Annabel Rhys (constantly switching between Welsh and English, which is typical of Aberystwyth). Not terribly convinced by the relationship between Gareth and Mel though.
Profile Image for Grwndi.
8 reviews
July 29, 2013
Nofel digon darllenadwy. Stori dditectif eithaf cyffrous gyda sawl tro annisgwyl. Nid yw'n amlwg pwy yw'r llofrudd tan ddiwedd y nofel, sy'n dipyn o grefft ynddo'i hun. Serch hynny, 'dyw'r cymeriadau ddim yn taro deuddeg yn fy marn i a do'n i ddim yn teimlo fy mod i wedi dod i'w adnabod nac ychwaith yn cydymdeimlo â nhw. Wedi dweud hyn, nofel fach ddifyr fyddai'n addas i'w darllen ar draeth neu wrth y pwll pan ar eich gwyliau.
Displaying 1 - 2 of 2 reviews