Mae Petrograd gan Wiliam Owen Roberts, sef y nofel gyntaf mewn trioleg o nofelau, gyda phob un ohonynt yn hunan-gynhaliol.
Nofel wedi'i lleoli yn Rwsia ac Ewrop yw Petrograd. Mae'r stori yn dechrau yn haf 1916, ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau personol a gwleidyddol sydd yn gwyrdroi eu bywydau yn sgil y Chwyldro yn 1917.
Wiliam Owen Roberts (1960-) was brought up in Garndolbenmaen, north Wales and now lives in Cardiff. His first novel, Bingo! (1985) was described as the first post-modern Welsh novel, and marked the beginning of a period of new maturity in the history of the genre in the Welsh language. Y Pla (Pestilence, 1987), his second novel, won him an Arts Council of Wales award in 1988, and has been translated into English, Dutch, French, German, Hungarian and Slovak. His work includes plays and several television and radio series. Paradwys, a more recent novel (Paradise, 2001), is a monumental work which moves between Wales, London, Paris and Haiti in the late eighteenth century.
His most recent novel, Petrograd (2009), is set during the Russian Revolution, which went on the win the Wales Book of the Year award
Nofel y bûm yn ei lygadu ar ein silff lyfrau ers blynyddoedd ond wedi ei osgoi oherwydd ei faint, dros 500 o dudalennau. Rhois ymgais arni llynedd, ond cloffi ar ôl ychydig dudalennau oherwydd i mi fethu dygymod gyda’r holl enwau Rwsieg, ac nid oedd golygfa lle roedd hogyn ifanc yn hunanleddfu ar sleeper train ar y ffordd i'r Môr Du yn help chwaith, rhois y gorau iddi. Ond eleni rhois ail-ymgais arni a’r tro hwn deliais ati ac rwy’n falch mod i wedi oherwydd yn fuan iawn anghofiais fy mod i’n darllen y nofel ar wyliau yn Sir Gâr oherwydd dyna lle roeddwn i ym merw'r Chwyldro Bolsieficaidd yn Pentrograd 1917, wedi ymgolli’n llwyr yn y nofel wefreiddiol hon (ond nid oeddwn wedi cychwyn ychwanegu fodca at fy nhê!)
Yr hyn a geir yw hanes un teulu yn ystod ac yn dilyn y Chwyldro a’r Rhyfel Cartref yn Rwsia: y chwalu, y ffoi a’r alltud wedyn ym Merlin. Teulu bourgeoisie yw’r ffocws, er bod cydymdeimlad yr awdur yn un Marcsaidd fe dybiaf. Clyfrwch y nofel yw ei bod yn llwyddo i’ch cael chi i deimlo trueni - ar lefel personol o leiaf - gyda’r bourgeoisie sydd wedi ymgyfoethogi ar draul y werin ond bellach yn colli popeth oherwydd y chwyldro. Wn i ddim sut, ond mae’r nofelydd yn llwyddo i wneud i chi deimlo cydymdeimlad dros bobl sy’n gorfod ei slymio hi a byw mewn … gwesty! Yr hyn mae’r nofelydd yn gwneud yw ein harwain i mewn i baradwys ffŵl oherwydd tua diwedd y nofel yr hyn a welir yw bod Berlin gyfalafol yr un mor dywyll a dinistriol ag yr oedd Petrograd gomiwnyddol, os nad gwaeth, ac felly efallai mai moeswers fawr y nofel yw nid yn gymaint fod un ochr yn “dda” ac un ochr yn “ddrwg” yn gymaint â bod yna ddynoliaeth a harddwch yn cael ei sathru ym mhob man gan wahanol systemau ac ideolegau.
O gymryd fod y nofelydd wedi ymchwilio’n fanwl i mewn i hanes Rwsia mae’r nofel yn ffynnhonell Gymraeg da i roi cefndir a chyflwyniad i’r darllenydd Cymraeg i bwnc sy’n arbennig o gyfoes oherwydd y rhyfel cyfoes rhwng Rwsia a’r Wcraen. Wrth gyflwyno’r darllenydd i fyd-olwg y Gwynion a syniadau am genedlaetholdeb honedig “Gristnogol” Rwsia (sydd, yn wahanol iawn i’r syniad Cymreig o ‘Genedlaetholdeb Cristnogol’ dylid nodi) ceir cipolwg i fyd-olwg ac ideoleg sy’n gyrru Putin a chenedlaetholdeb Rwsia heddiw.
O ddiddordeb penodol i mi mae’r portread o grefydd, ffydd ac yn benodol Cristnogaeth mewn llenyddiaeth ac roedd sawl cyffyrddiad difyr a treiddgar yn y nofel hon. Y cymeriad difyrra o safbwynt diwinyddol i mi oedd Leo, tramp a dreuliodd gyfnod yn byw gyda Alyosha (y prif gymeriad) yn nhŷ haf y teulu ger y Môr Du pan oedd ar ffo. Er yn feddwyn roedd Leo yn ddyn crefyddol a defosiynol a ddywedodd wrth Alyosha untro: “Peth anffodus ydi fod natur dyn yn yr oes sydd ohoni yn mynnu eglurhad labordy am y byd a’r bydysawd, yn lle derbyn bodolaeth dirgelion a dirgelwch.” Dyma ni gan Leo ddadansoddiad a beirniadaeth dreiddgar Gristnogol o fateroliaeth hyll y byd-olwg Marcsaidd a chyfalafol fel ei gilydd sydd dim ond yn abl i bwyso a mesur gwerth y byd a’i bethau yn ôl cyfalaf neu ddosbarth heb werthfawrogi dirgelion a dirgelwch yr hyn na ellir byth ei fesur, o leiaf yn ôl safon materoliaeth.
Er yn nofel Gymraeg nid oes a wnelo hi ddim byd a Chymru a’r diwylliant a’r bywyd Cymreig. Mae adolygwyr eraill wedi dweud fod hyn yn dangos aeddfedrwydd y nofel Gymraeg, hynny yw ei bod hi’n abl i drafod unrhywbeth, unrhywun yn unrhywle, nid iaith i fola-syllio ar y profiad Cymraeg a Chymreig yn unig yw'r iaith Gymraeg - rwy’n cytuno! Yn y nofel hon mae gennym ein Clasur Rwsieg ein hunain nad sy’n gyfieithiad o gwbl o unrhyw Glasur Rwsieg ond yn nofel hollol wreiddiol Gymraeg sydd eto fyth cystal â bod yn Glasur Rwsieg (os ydych chi’n deall beth sydd gen i)!
Dyma’r nofel gyntaf mewn trioleg, daw’r nofel i’w therfyn yn ddigon taclus ond mae’n gadael digon i chi fod eisiau symud ymlaen at yr ail nofel sef ‘Paris’ (2013). Wrth sgwennu’r adolygiad hwn yn 2024 nid yw’r drydedd yn y drioleg wedi ei gyhoeddi eto.
Ffuglen hanesyddol sy'n dilyn hanes teulu yn ystod Chwyldro Rwsia ym 1917 yw'r nofel hon. Mae cyd-destun hanesyddol Petrograd yn ddifyr a realistig ac mae'n wych darllen nofel Gymraeg sy'n delio â chymhlethdodau hanes Rwsia. Er bod plot y nofel yn araf, mae'r stori'n datblygu'n raddol nes cyrraedd uchafbwynt ingol yn rhan olaf y gyfrol sydd hefyd yn cyflwyno llygedyn o obaith i'r darllenydd. Er cryfderau’r nofel hon, mae Petrograd yn dra dibynnol ar ddeialog unllinellog ac nid yw'n amlwg bob tro pa gymeriad sy'n siarad. Hefyd, yn fy marn i, byddai'r nofel dipyn yn gynilach heb y cynnwys rhywiol sy'n ychwanegu dim at themâu cyfoethog y gyfrol.
The novel starts of well, with genuine depiction and thoughts of an regular adolescent boy. As things unfold, there is not much happening apart from the distress one has gone during Russian civil war. The author blames both the Reds & Whites for the calamity, but never discuss the issue in detail.
I really enjoyd this story of young Alyosha and his family surviving the Russian Revolution. Great characterisation and pace. What pace! It really moved. Think 'Empire of the Sun' with Tsarists (Whites) and Communists (Reds) in constant conflict. The Whites fighting to restore the Tsar and the Reds to install a new order. The author has done his research 1916-1924 and effortlessly interweaves the Bolsheviks, Kerensky and Lenin into the background story. The savagery, madness and brutality of everyday life as experienced by Alyosha and his wealthy family (owning an armaments factory) are clearly depicted. He has completed the follow-up 'Paris' but it's written in Welsh, sadly, and although I am Welsh by birth I did not learn the language as a child. I will have to wait until it is translated into English, as Petrograd has been. Thank you William Owen Roberts, it deserves all the awards it has received.